O bob trysorau dàn/tan y nef
Y penaf drysor dàn y nef

(Heddwch Duw)
O bob trysorau tan y nef,
Y pennaf yw ei heddwch ef,
  Ei fath ni fedd yr India fawr:
Yn unig hwn a'm ceidw'n hy,
Yn erbyn g'lynion mwya cry',
  Na chaffont byth mo mhen i lawr.

O! gariad uchaf fu erioed,
Fry oddi ar, neu îs y rhod,
  Blaen brawf o'r gwleddoedd nefol pur:
Ni cheisiaf byth, tra dan y nef,
Ond teimlo'i awel hyfryd ef,
  Digonir fi yn y nefol dir.

O! dowch yn mlaen, yn ddinacâd,
Mi glywaf swn caniadau'r wlad -
  Peth o'r gorfoledd,
      peth o'r clod:
Difyrwch sydd yn nghwmni Duw
Nad oes o dan y sêr yn byw
  A wybu am ei fath erioed.
1: ? Morgan Rhys 1716-79
William Williams 1717-91

Tonau [888.888]:
Altorf (alaw Ellmynig)
Mawl (W T Rees [Alaw Ddu] 1838-1904)
Pantycelyn (alaw Ellmynig)
Rhosyn Saron (alaw Gymreig)

gwelir: Gwnawd concwest ar Galfaria fryn

(The Peace of God)
Of every treasure under heaven,
The chief is his peace,
  Its kind great India does not possess:
In this alone am I kept confident,
Against the strongest enemies,
  May they never bring my head down.

O highest ever love!
From up above, or below the sky,
  A foretaste of the pure, heavenly feasts:
I shall not seek, while ever under heaven,
But to feel his delightful breeze,
  I shall be satisfied in the heavenly land.

O come on, inexhaustibly!
I hear the sound of the songs of the land -
  Something of the glory,
      something of the praise:
Enjoyable it is in the company of God
There is nothing living under the stars
  That has ever known its like.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~